EifionWILLIAMS(Eifion Wylfa) Chwefror 22ain 2015 yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei deulu yn 78 mlwydd oed o Green Acres, Gwalchmai. Priod annwyl Iris, tad arbennig a hoffus Elfed, Gwyn a Sian, tad yng nghyfraith Coral a Graham, taid balch Daniel, Lennon, Sion Eifion, Osian Eifion, Kian ac Owain Eifion, brawd ac ewythr hoff. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Iau Chwefror 26ain, preifat ar yr aelwyd i deulu agos, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Moriah (A) Gwalchmai am 1.30 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Eglwys Sant Morhaiarn, Gwalchmai. Dim blodau ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands, Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni, Ynys Mon, LL7DU. Rhif ffôn 01248 723111.
Keep me informed of updates